Trwy'r nef y trysor penaf yw

(Cân y nef)
Trwy'r nef y trysor penaf yw
Anfeidrol rinwedd gwaed fy Nuw;
  Holl sylwedd y caniadau i gyd:
A'r gwaed a roddodd
    berffaith Iawn
I eithaf llym gyfiawnder llawn,
  Yw'm hedd a'm cysur yn y byd.

Trwy rinwedd hwn caf dawel fyw
Uwch brad gelynion
    o bob rhyw;
  O swn pob trafferth
      a phob gwae:
A threulio tragwyddoldeb mwy
I ganu am ei ddwyfol glwy',
  Mewn anthem fythol i barhau.
Cas. o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841

Tôn [888D]: Talarfon (J Hughes, Lerpwl.)

gwelir:
  Chwi weision Duw molwch yr Iôn
  Nis gall angylion nef y nef

(The Song of Heaven)
Throughout heaven the chief treasure is
The immeasurable merit of my God's blood;
  The whole substance of all the songs:
And the blood that gave
    a perfect Satisfaction
To the extremely keen, full righteousness,
  Is my peace and my comfort in the world.

Through this merit I may quietly live
Above the treachery of enemies
    of every kind;
  From the sound of all trouble
      and all woe:
And spend an eternity evermore
Singing about his divine wound,
  In an anthem forever to continue.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~